S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Agor cystadleuaeth Cân i Gymru: gwobr £5,000 a phleidlais lwyr i'r gwylwyr yn 2016

05 Awst 2015

 Mae cystadleuaeth Cân i Gymru 2016 wedi cael ei hagor yn swyddogol heddiw, Mercher 5 Awst 2015, mewn digwyddiad ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Mae S4C yn gwahodd cyfansoddwyr i gynnig eu caneuon am y cyfle i ennill gwobr o £5,000. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 20 Tachwedd, 2015. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cân i Gymru 2016

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal, yn draddodiadol, ddechrau mis Mawrth 2016, gydag Elin Fflur a Trystan Elis-Morris yn cyflwyno.

Roedd Elin Fflur yno i ddadlennu'r gystadleuaeth ar ei newydd wrth lansio Cân i Gymru 2016 ym mhafiliwn S4C yr Eisteddfod Genedlaethol, yng nghwmni Elin Angharad, cantores cân fuddugol 2015, 'Y Lleuad a'r Sêr'.

Yn ogystal â gwobr uwch o £5,000, y prif newid arall i'r drefn ar gyfer 2016 yw mai'r gwylwyr yn unig fydd yn dewis enillydd Cân i Gymru drwy bleidlais ffôn.

Yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r gân fuddugol wedi ei ddewis drwy gyfuno pleidleisiau ffôn y gwylwyr gyda sgôr gan banel o feirniaid. Yn 2016, y gwylwyr yn unig fydd yn dewis Cân i Gymru 2016, ond, mi fydd panel o feirniaid yn cael rhoi eu barn hefyd, gan wobrwyo eu hoff gân hwythau gyda gwobr ychwanegol, Tlws y Beirniaid.

Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, sy'n sôn am y gystadleuaeth eleni; "Ar gyfer 2016, roeddem eisiau gwneud newidiadau, a gwrando ar farn gwylwyr. Felly, am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd, y gwylwyr yn unig fydd yn dewis yr enillydd yn 2016. Roedd hyn yn bwysig iawn i ni, ond, rydym hefyd yn awyddus i glywed barn arbenigwyr yn y byd cerddoriaeth, a dyna pam ein bod ni'n cyflwyno gwobr Tlws y Beirniaid ar gyfer 2016.

"Yn ogystal â phrif wobr wych o £5,000, mae cymryd rhan ynddo ei hun yn gyfle i gerddorion a chyfansoddwyr recordio eu cân - cyfle sydd ddim ar gael yn hawdd i bawb. Eleni, bydd wyth cân yn cystadlu; sy'n golygu wyth cân newydd sbon, yn yr iaith Gymraeg, i'w recordio yn broffesiynol a'u rhyddhau ar gyfer lawr lwytho a'u clywed ar donfeddi radio am flynyddoedd i ddod."

Yn dilyn y dyddiad cau, ar 20 Tachwedd, bydd wyth cân yn cael eu dewis ar gyfer cystadlu ar lwyfan Cân i Gymru 2016. Bydd pedwar o fentoriaid profiadol yn y diwydiant yn cydweithio â'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr i berffeithio'r gân ar gyfer y gystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddechrau mis Mawrth.

Os ydych chi am gystadlu am Cân i Gymru 2016, mae'r telerau a'r rheolau ar gael yn llawn ar wefan Cân i Gymru 2016

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?