S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn agor Pôl Cân i Gymru fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru

12 Chwefror 2016

 Mae S4C yn rhoi cyfle i wylwyr bleidleisio am eu hoff gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ers i’r sianel ddechrau darlledu’r digwyddiad yn 1982.

Mae’r pôl o 33 cân yn cael ei agor heddiw (12 Chwefror) ar s4c.cymru i gyd-fynd â dathliadau Dydd Miwsig Cymru.

Mae Dydd Miwsig Cymru wedi’i drefnu gan Lywodraeth Cymru i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Cymraeg ac mae cantorion amlwg fel Cerys Matthews, Osian Williams o Candelas, Gwenno Saunders ac Ifan Davies o Swnami yn ei gefnogi.

Mae rhestr o 33 cân fuddugol yn y pôl gan ddechrau gyda ‘Nid Llwynog Oedd yr Haul’ gan Myrddin ap Dafydd a Geraint Lovgreen yn 1982 i ‘Y Lleuad a’r Sêr’ gan Arfon Wyn a Richard James Roberts yn 2015.

Fe allwch fynd i wefan s4c.cymru Facebook neu Twitter S4C i bleidleisio am eich hoff gân. Mae’r bleidlais ar agor tan 9yb ar 29 Chwefror.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: “Eleni mae yna gyfle arbennig i chi wrando ar holl ganeuon buddugol Cân i Gymru ers 1982 ac mae ‘na berlau yno. Mae'n atgof o gyfraniad sylweddol y gystadleuaeth i gerddoriaeth Gymraeg dros y degawdau a dwi’n siŵr fod gan bawb eu ffefryn! Felly ewch ati i bleidleisio am eich hoff un chi ac ar y noson, gawn ni gyfle i glywed hoff gân y genedl yn cael ei pherfformio yn fyw o’r stiwdio yng Nghaerdydd.”

Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi cael ei chynnal ers 1969 ac mae’n gyfle i gyfansoddwyr gynnig caneuon gwreiddiol am gyfle i ennill gwobr ariannol a theitl Cân i Gymru.

Mae’r gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth ac mi fydd wyth cân yn cystadlu ar y llwyfan am y wobr. Fel arfer, mae’r gân fuddugol yn cael ei dewis drwy gyfuno pleidleisiau’r gwylwyr gyda sgôr gan banel o feirniaid ond eleni, y gwylwyr yn unig fydd yn dewis yr enillydd, drwy bleidlais ffôn.

Gweler rhestr isod o’r caneuon buddugol i gyd ers 1982 hyd at 2015. Bydd y gân fwyaf poblogaidd yn cael ei pherfformio ar 5 Mawrth fel rhan o ddathliadau Cân i Gymru 2016.

DIWEDD

Enillwyr Cân i Gymru ers 1982:

1982 - Nid Llwynog Oedd yr Haul - Myrddin ap Dafydd, Geraint Lovgreen

1983 - Popeth ond y Gwir - Robin Gwyn, Sian Wheway

1984 - Y Cwm - Huw Chiswell

1985 - Ceiliog y Gwynt - Euros Rhys Evans

1986 - Be ddylwn i Ddweud - Eirlys Parry

1987 - Gloria Tyrd Adref - Euros Elis Jones

1988 - Can Wini - Eurig Wyn, Manon Llwyd

1989 - Twll triongl - Paul Morrison, Hefin Huws

1990 - Gwlad y Rasta Gwyn - Bryn Fôn

1991 - Yr un hen le - Richard Marks

1992 – Dal i Gredu - Gwennant Pyrs, Meleri Roberts, Alwen Derbyshire

1993 – Y Cam Nesaf - Llion Rhys Howel, Anthony James Burdett

1994 – Rhyw Ddydd - Paul Gregory, Lorraine King, Tim Hamill, Dave Parsons

1995 - Can i’r Ynys Werdd - Richard Jones, Arwel John

1996 - Cerrig yr Afon - Iwan Roberts, John Doyle

1997 - Un Funud Fach - Barry Jones

1998 - Rho Dy Law - Rhodri Tomos

1999 - Torri’n Rhydd - Steffan Rhys Williams

2000 - Cae o Ŷd - Arfon Wyn

2001 - Dagrau Ddoe - Emlyn Dole

2002 - Harbwr Diogel - Arfon Wyn, Richard Synnott

2003 - Oes Lle i Mi – Emma Walford, Mererid Hopwood

2004 - Dagrau Tawel - Tudur Dylan, Meinir Richards

2005 - Mi Glywais i - Guto Vaughan & Dafydd Jones

2006 - Lili’r Nos - Ryland Teifi

2007 - Blwyddyn Mas - Einir Dafydd, Ceri Wyn Jones

2008 – Atgofion - Aled Myrddin

2009 – Gofidiau - Elfed Morgan Morris, Lowri Watcyn Roberts

2010 - Bws i’r Lleuad - Alun Evans

2011 - Rhywun yn Rhywle - Steve Balsamo, Ynyr Gruffydd

2012 - Braf yw cael byw - Gai Toms, Philip Jones

2013 - Mynd i Gorwen Hefo Alys - Osian Huw Williams, Rhys Gwynfor

2014 - Galw amdanat ti - Barry Evans, Mirain Evans

2015 - Y Lleuad a’r Sêr - Arfon Wyn, Richard James Roberts

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?