S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Prif Weithredwr S4C yn talu teyrnged i Dafydd Dafis

04 Ebrill 2017

Mae Prif Weithredwr S4C wedi talu ternged i’r perffomiwr amryddawn Dafydd Dafis yn dilyn y newyddion trist am ei farwolaaeth.

Dywedodd Ian Jones,

"Gyda thristwch mawr y clywsom ni am farwolaeth anamserol yr actor, canwr, cerddor a chyflwynydd Dafydd Dafis. Roedd ganddo amrywiaeth enfawr o ddoniau a chyfrannodd yn fawr at lu o gyfresi a rhaglenni ar S4C o ddyddiau cynharaf y sianel ymlaen. Fel actor, byddwn yn ei gofio yn chwarae cymeriadau mewn cynyrchiadau fel Yr Heliwr/A Mind to Kill, Coleg, Pen Talar a Paradwys Ffwl gyda medr ac angerdd. Dangosodd yr un angerdd wrth berfformio fel canwr soul a phop a cherddor jazz, pop a roc a pherfformio mewn sawl cyfres gerddoriaeth ac adloniant ar S4C a chyngherddau amlwg. Bydd colled fawr ar ei ôl a hoffem anfon ein cydymdeimlad dyfnaf i'w deulu a'i ffrindiau."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?