S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newid amserlen S4C yn dod ag omnibws Pobol y Cwm yn ôl

27 Ebrill 2017

Mi fydd omnibws wythnosol Pobol y Cwm yn cael ei dangos ar S4C unwaith eto, yn rhan o nifer o newidiadau sy'n digwydd ar ddechrau mis Mai.

Mae'r omnibws - gydag isdeitlau ar y sgrin - yn gyfle i ddal fyny â holl straeon yr opera sebon, sy'n gynhyrchiad gan BBC Cymru. Mae'r omnibws yn wasanaeth newydd, yn lle'r ailddarllediadau dyddiol sydd, ar hyn o bryd, am 6.00 bob nos Lun i nos Wener.

Ymhlith y newidiadau eraill i amserlen S4C, o fore Llun 1 Mai, mi fydd cyfle i blant bach godi'n gynt yng nghwmni Cyw, gyda'r rhaglenni yn dechrau am 6.00 bob bore. Yna bydd bwletinau Newyddion a Thywydd rheolaidd ar ddyddiau'r wythnos - am 1.00, 2.00, 3.00 a 6.00 – ac mae'r rhaglen newyddion Ffeil i bobl ifanc yn symud i 5.00.

Mae'r dewis i newid agweddau o'r amserlen ddyddiol yn ymateb i ddymuniadau gwylwyr, meddai Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees;

"Wrth adolygu adborth ein gwylwyr buon ni'n ystyried pa newidiadau oedd yn bosib er mwyn ymateb i'w dymuniadau. Am fod gemau rygbi byw bellach wedi symud i nos Sadwrn, mae hynny wedi agor amser i ni ar brynhawn Sul. Mae wedi rhoi cyfle i ni edrych o'r newydd ar ailddarllediadau Pobol y Cwm ac ymateb i wylwyr sydd wedi gweld eisiau'r Omnibws bob dydd Sul.

"Mae symud Cyw i 6.00 y bore yn ymateb i sylwadau rhieni â phlant bach, oedd yn credu ei fod yn drueni nad oedd Cyw ar gael yn gynharach yn y bore. Ac ry' ni'n falch o ymestyn ein gwasanaethau Newyddion a Thywydd er mwyn darparu diweddariadau cyson, eto yn ymateb i sylwadau gwylwyr oedd am weld rhagor o newyddion yn ystod y dydd."

Bydd y newidiadau yn digwydd o 1 Mai ymlaen, ac am 5.30 ar nos Sul 7 Mai yw'r cyfle cyntaf i ddal fyny â holl benodau Pobol y Cwm yn yr omnibws. Mae'r holl raglenni ar gael i'w gwylio ar alw, gydag isdeitlau Cymraeg neu Saesneg, ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.

O ganlyniad mi fydd amseroedd darlledu rhai rhaglenni eraill yn newid, yn cynnwys Dechrau Canu Dechrau Canmol sydd nawr am 7.30 bob nos Sul. Gallwch weld yr amserlen newydd ar-lein ar s4c.cymru

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddodd S4C a BBC Cymru newidiadau i amserlen ddarlledu Pobol y Cwm oedd yn cynnwys dod â'r omnibws dydd Sul i ben, a chadw'r ailddarllediadau ganol yr wythnos.

Roedd y penderfyniad i roi’r gorau i’r omnibws yn deillio o’r arbedion ariannol sylweddol oedd, ac sy'n dal i, wynebu S4C. Er mai BBC Cymru sy’n cyllido’r rhan fwyaf o gyfres Pobol y Cwm – S4C oedd wedi cyllido’r omnibws wythnosol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?