S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

03YB yw enillydd Her Ffilm Fer Hansh cyntaf erioed

24 Mehefin 2020

Y ffilm 03YB sydd wedi ennill yr Her Ffilm Fer Hansh cyntaf erioed.

Creu ffilm fer wreiddiol dros gyfnod o 48 awr; dyna'r her oedd yn wynebu'r cystadleuwyr penwythnos diwethaf, o nos Wener 19 Mehefin hyd at nos Sul 21 Mehefin.

Ar ddechrau'r ffenest 48 awr, fe gyhoeddwyd ar Hansh mai arswyd oedd y genre dan sylw yn y gystadleuaeth, gan hefyd gynnwys y thema o lliw.

Gyda chyfanswm o 42 ffilm yn cael eu creu gan gynhyrchwyr ledled Cymru a thu hwnt, fe ddaeth y panel o feirniad i'r penderfyniad mai'r ffilm 03YB, gan Kiko, sef partneriaeth rhwng Siân Adler a Lewys Mann, oedd yn deilwng o ennill y gystadleuaeth a'r wobr o fil o bunnoedd.

Cyhoeddwyd y feirniadaeth yn fyw ar Facebook Live a Hansh nos Fawrth 23 Mehefin, gan gyflwynydd y gystadleuaeth, yr actores Annes Elwy, seren Craith a Little Women.

Mae pob un o'r ffilmiau a grëwyd ar gyfer y gystadleuaeth i'w gweld nawr ar wefan www.herffilmfer.cymru.

Cafodd y gystadleuaeth ei gynnal ar y cyd rhwng Hansh a'r cwmni cynhyrchu Tinint, sydd yn rhan o grŵp Tinopolis Cymru.

Mae'r enillwyr, Siân Adler a Lewys Mann yn byw ym Mhontypridd ac yn rhedeg cwmni o'r enw Trigger Happy Creative, sy'n cynhyrchu fideos miwsig i artistiaid.

Enillydd Her Ffilm Fer Hansh: 03YB, gan Kiko, sef partneriaeth rhwng Siân Adler a Lewys Mann

Dywedodd Siân: "Fel arfer ni'n ffilmio fideos miwsig, ond oherwydd lockdown, does 'da ni ddim gwaith. Felly mi oedd e'n grêt i gael y cyfle i greu ffilm arswyd.

"Mae Lewys yn licio ysgrifennu sgriptiau, felly mi wnaeth e fwynhau'r sialens gyda'r her yma.

"Roedd y ddau ohonom yn aros lan tan 5.30yb a deffro eto am 9yb er mwyn gwneud y ffilm effects. Roedd e'n stressful ond roeddwn ni rili wedi mwynhau.

"Mae'r teimlad o ryddhad pan ti'n gwasgu'r botwm 'send' ar ddiwedd yr her yn anhygoel.

"Roeddwn ni'n mor hapus i glywed mai ni oedd wedi ennill. Cawsom gymaint o hwyl yn wneud e, fi eisiau parhau neud ffilmiau byr, ond efallai fydden ni'n cymryd ychydig mwy o amser na 48 awr y tro nesaf!"

Cyn ac yn ystod y gystadleuaeth, fe gyhoeddwyd sawl fideo masterclass ar Hansh gan rai o gynhyrchwyr a sgriptwyr drama fwyaf blaenllaw Cymru, megis Euros Lyn, Fflur Dafydd a Siôn Griffiths, i rannu cyngor gyda chystadleuwyr ar wahanol nodweddion o greu ffilm a gwneud y mwyaf o'u hadnoddau.

Ar y panel yn beirniadu'r gystadleuaeth oedd:

-Hannah Thomas - Cynhyrchydd Craith, Under Milk Wood, Becoming Human

-Euros Lyn - Cyfarwyddwr Dr Who, Torchwood, Y Llyfrgell

-Ed Thomas - cynhyrchydd Y Gwyll, Gwaith Cartref, Pen Talar

-Gwenllian Gravelle - Comisiynydd Drama S4C, cyn-gynhyrchydd Un Bore Mercher

-Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C a Hansh

Dywedodd y cyfarwyddwr, Euros Lyn: "Bu gwylio dros 40 o ffilmiau o law cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm dalentog yn achos dathlu bod dyfodol disglair i'r sinema yng Nghymru.

"Llwyddodd cymaint o'r ffilmiau ddweud stori wreiddiol ag emosiwn, heb sôn am godi llond twll o ofn arna'i!

"Ar dop fy rhestr oedd yr enillydd 03yb, yn ogystal â Champwaith - straeon syml, tywyll, llawn hiwmor.

"Os am eich arswydo a'ch diddanu gan dalent y dyfodol, gwyliwch nhw nawr ar Hansh."

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Roedd hi'n anodd iawn dewis un enillydd gan fod pob un ffilm wedi serennu yn ein ffordd eu hunain.

"Mae 03YB yn ffilm gyda gwerthoedd cynhyrchu gwych. Roedd y goleuo, y fframio a'r perfformio yn arbennig o dda ac mi roedden nhw'n amlwg wedi cael hwyl ar y genre a'r thema.

"Rwy'n gobeithio bydd yr her yn ysgogi pawb i barhau i greu ffilmiau ac mi ydw i'n edrych ymlaen at weld ffrwyth gwaith y cynhyrchwyr talentog yma yn y dyfodol."

I wylio pob ffilm a'i crëwyd ar gyfer y gystadleuaeth, ewch i www.herffilmfer.cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?