S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Saith gwobr BAFTA Cymru i S4C

10 Hydref 2022

Mae S4C wedi llwyddo i gipio 7 gwobr BAFTA Cymru 2022 mewn seremoni a gynhaliwyd neithiwr yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Llwyddodd Chris Roberts i hawlio dwy wobr sef y cyflwynydd gorau a hefyd y Rhaglen Adloniant orau am ei gyfres Bwyd Byd Epic Chris (Cwmni Da).

Daeth cyfres nodwedd dwymgalon Ysgol Ni: Moelwyn (Darlun TV) i'r brig yn y categori Cyfres Ffeithiol, ac fe aeth rhaglen ysgytwol Y Parchedig Emyr Ddrwg (Docshed) a'r wobr yn y categori Rhaglen Ffeithiol.

Llwyddodd y ffilm eiconig Grav (Regan Developments/ Tarian) i gipio'r wobr am y Ffilm Nodwedd Deledu Orau a chyfres Hei Hanes (Cwmni Da) aeth a'r wobr yn y categori Rhaglen Blant Orau.

Yn ogystal enillodd Dylan Williams wobr am y Cyfarwyddwr Ffeithiol gorau am ei waith ar raglen ddogfen Y Côr (Cwmni Da).

Meddai Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C

"Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi ennill ac sydd wedi derbyn enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru 2022. Rydyn ni'n hynod falch o'r holl gynyrchiadau ac yn ddiolchgar iawn i'r cwmnïau cynhyrchu ac i'n comisiynwyr sydd wedi gweithio mor galed ar greu cynnwys gafaelgar a safonol."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?