S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cystadleuaeth Cân i Gymru 2023 ar agor

27 Hydref 2022

Mae S4C yn galw ar gerddorion a chyfansoddwyr Cymru i gynnig eu caneuon wrth i gystadleuaeth Cân i Gymru 2023 agor yn swyddogol heddiw.

Bydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn cipio tlws Cân i Gymru a gwobr o £5,000, gyda'r ail a'r drydedd hefyd yn derbyn gwobrau o £2,000 a £1,000.

Y gân 'Mae yna Le' gan Rhydian Meilir, o Gemaes ger Machynlleth, ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth yn gynharach eleni. Gyda'r gystadleuaeth eiconig yn ei hôl unwaith eto yn 2023, tybed pwy fydd y nesaf i hawlio'i lle yn oriel anfarwolion Cân i Gymru?

Mae Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy'n cynhyrchu'r rhaglen, yn ffyddiog o ddod o hyd i stôr o gerddoriaeth Gymraeg newydd ledled Cymru, a thu hwnt:

"Rhan o apêl Cân i Gymru ydy'r ffaith ein bod ni'n cael clywed cerddoriaeth newydd gan amryw o gyfansoddwyr – wynebau cyfarwydd a rhai newydd. Faswn i'n annog ceisiadau o bob genre cerddorol er mwyn cynrychioli'r cyfoeth arbennig sydd gennym ni yng Nghymru heddiw."

Bydd wyth cân yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr y diwydiant er mwyn mynd ymlaen i gystadlu yn Cân i Gymru 2023.

A bydd yr wyth cân yn mynd yn erbyn ei gilydd yn fyw ar S4C ar nos Wener 3 Mawrth 2023 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris wrth y llyw. Ond y gwylwyr adref gaiff ddewis pwy fydd yn codi tlws eiconig Cân i Gymru drwy fwrw eu pleidlais dros y ffôn.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant a Cherddoriaeth S4C:

"Ar ôl blynyddoedd heriol i'r celfyddydau a cherddoriaeth fyw, dyma gyfle i ni ddathlu a thynnu sylw at y dalent gerddorol ry'n ni'n ffodus o'i chael yma yng Nghymru. Mae'r cyffro a'r teimlad sydd ynghlwm â'r gystadleuaeth yn un unigryw iawn. Ewch amdani."

Dyddiad cau cystadleuaeth Cân i Gymru 2023 yw 3 Ionawr. Os ydych chi am gystadlu mae'r manylion i gyd a'r ffurflen gais ar gael ar wefan S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?