S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dathlu 40 mlynedd o ddarlledu

1 Tachwedd 2022

Ers 1982 mae S4C wedi diddanu a gwasanaethu gwylwyr ledled Cymru a thu hwnt ac wrth i'r sianel ddathlu ei phen-blwydd ar y 1af o Dachwedd, bydd ffocws S4C ar adnewyddu a datblygu platfformau a ffyrdd newydd o wylio.

Gyda phatrymau gwylio wedi newid yn enwedig ymhlith cynulleidfaoedd iau, mae hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i S4C ehangu cynulleidfaoedd gan sicrhau fod holl wasanaethau S4C yn berthnasol ac yn gyffrous i bobl mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae'r sylfeini ar gyfer lle rydyn ni heddiw wedi'u gosod dros y pedwar degawd diwethaf ac mae S4C yn hynod falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni a pha mor bell rydyn ni wedi dod. Heddiw, mae S4C yn cynhyrchu cynnwys gafaelgar i'n gwylwyr, oherwydd ymroddiad y rhai a oedd yn angerddol i'r syniad o sianel Gymraeg ac a ymgyrchodd yn ddiflino i wneud iddo ddigwydd. Mae eu stori a'u brwydr i'w gweld mewn ffilm arbennig - Y Sŵn - a gomisiynwyd gan S4C mewn cydweithrediad â Joio fydd i'w gweld mewn sinemâu ym mis Mawrth cyn ymddangos ar S4C."

Mae 'Y Sŵn' yn adrodd un o straeon mwyaf lliwgar hanes Cymru, ac yn canolbwyntio ar fethiant y llywodraeth Geidwadol i sefydlu sianel deledu iaith Gymraeg yn 1979, y gwrthsafiad sifil a ddaeth yn sgîl hyn, a chenhadaeth wleidyddol Gwynfor Evans i sicrhau fod y llywodraeth yn newid eu meddyliau.

Dywedodd Roger Williams, Uwch Gynhyrchydd Y Sŵn: "Bydd 'Y Sŵn' yn un o uchafbwyntiau diwylliannol Gwanwyn '23 a fydd yn tanio sgyrsiau difyr am hanes protestiadau Cymru, dyfodol darlledu yng Nghymru a thynged yr Iaith Gymraeg. Bydd Mark Lewis Jones, Siân Reese-Williams a Rhodri Evan yn ymddangos yn y ffilm, gyda Lee Haven Jones yn cyfarwyddo."

Y rhaglen gyntaf i'w darlledu ar S4C oedd Superted ac yn rhan o'r dathliadau bydd pum pennod o Superted i'w gweld yn ystod mis y pen-blwydd. Yn ogystal bydd rhifyn arbennig o Plant y Sianel yn dilyn taith criw o bobl sy'n rhannu pen-blwydd gyda'r sianel ac sydd wedi tyfu fyny gyda S4C yn rhan annatod o'u bywydau. Bydd hefyd Noson Gomedi: Dathlu'r 40 yn llawn hwyl a chwerthin ar rai o berlau'r sianel dros y degawdau. Un o uchafbwyntiau'r arlwy fydd cyfres Gogglebocs Cymru, sef fersiwn Cymraeg o'r fformat poblogaidd Gogglebox. Gyda Tudur Owen yn lleisio byddwn yn dod i adnabod teuluoedd a grwpiau o ffrindiau ledled Cymru a thu hwnt.

Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd hefyd bydd S4C yn troi'r sianel yn goch i gefnogi tîm Cymru yng Nghwpan y Byd. Bydd pob un o gemau Cymru, a phob eiliad hanesyddol yng Nghwpan y Byd 2022 yn fyw, ac yn rhad ac am ddim ar S4C – cartref pêl-droed Cymru. Mae'r berthynas rhwng S4C, tîm pêl-droed Cymru, a'r cefnogwyr yn allweddol i ddyfodol yr iaith, sydd wedi bod yn ffocws amlwg i S4C ar hyd y blynyddoedd.

Wrth i Gymru baratoi i gychwyn eu hymgyrch cwpan y byd yn erbyn UDA yn Qatar, fe fydd y ddwy wlad yn dod at ei gilydd yn Efrog Newydd i ddathlu cerddoriaeth, diwylliant a'r iaith Gymraeg. Mewn cyngerdd arbennig Cymry i'r Byd sy'n cael ei gynnal gan S4C mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bydd yn gyfle i gryfhau'r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ac arddangos y gorau o dalent Cymru i'r byd. Bydd y gyngerdd gydag Ioan Gruffudd, Bryn Terfel ac eraill i'w weld ar S4C ar Nos Sul 20 Tacwedd.

Meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C:

"Wrth i S4C ddathlu'r garreg filltir nodedig hon, mae'n gyfle i ni edrych ymlaen ar sut all S4C ddatblygu i'r dyfodol. Mae'r ffordd rydyn ni'n gwylio cynnwys wedi newid, ac mae'r hinsawdd hyn ar draws llu o blatfformau wedi agor drysau i ni. Bellach, mae ein dramâu yn denu cynulleidfaoedd o bob cwr o'r byd. Mae cynyddu is-deitlo wedi helpu ehangu gorwelion a chreu cyfle i ni wireddu rhai o brif amcanion y sianel, i fod yn gartref i bawb, i godi ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymru ac yn holl bwysig, i gefnogi ffyniant ein hiaith."

"Diolch i bawb sydd wedi cefnogi S4C dros y deugain mlynedd diwethaf. Ymlaen â ni i'r deugain nesaf!"

Dywedodd Cadeirydd S4C, Rhodri Williams:

"Mae'n diolch yn fawr i bawb sy' wedi cyfrannu i lwyddiant S4C ar hyd y blynyddoedd – yn wylwyr, yn gyfranwyr, a'r cannoedd o weithwyr yn y sector gynhyrchu sy' wedi creu'r cynnwys. Mae S4C wedi ymbweru'r sector gynhyrchu yng Nghymru i wireddu eu creadigrwydd a darparu gwasanaethau hynod werthfawr i siaradwyr Cymraeg o bob oedran. Doedd dim sector gynhyrchu annibynnol yn bodoli yng Nghymru ym 1982 ac rwy'n falch iawn o'r ffordd mae S4C wedi helpu i greu sector greadigol sy' bellach yn gwasanaethu llu o ddosbarthwyr cynnwys ar draws y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt. Rwy'n hyderus y bydd y gwaith y parhau am flynyddoedd i ddod."

Meddai Gweinidog Gwladol y Cyfryngau Julia Lopez:

"Mae S4C yn chwarae rôl allweddol o ran gwarchod a hyrwyddo'r iaith Gymraeg, diwylliant ac economi Cymru. Ers 40 mlynedd, mae newyddion a rhaglenni o safon uchel y darlledwr gwych hwn wedi rhoi lle arbennig iddo yng nghalonnau cymunedau Cymraeg.

"Bydd llywodraeth y DG yn parhau i gefnogi S4C fel y gall ffynnu yn yr oes ddigidol ac ehangu ei chyrhaeddiad yn fyd-eang – a'i helpu i lwyddo am bedwar degawd arall a thu hwnt."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies:

"Llongyfarchiadau i S4C ar 40 mlynedd o ddarlledu. Mae'r sianel wedi addysgu a diddanu cenedlaethau o gynulleidfaoedd ac yn chwarae rôl hanfodol yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

"Fel llywodraeth rydym yn parhau i gefnogi S4C fel y gall greu a darlledu cynnwys o'r safon uchaf i gynulleidfaoedd yng Nghymru a led led y byd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?