S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

5 Awst 2023

Mae sianel carioci Cymraeg newydd yn cael ei lansio ar safle YouTube Noson Lawen.

Bydd dewis o 20 o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru ar y sianel, clasuron fel Yma o Hyd, Anfonaf Angel, Strydoedd Aberstalwm a Calon Lân.

Fe fydd y grŵp gwerin Bwncath yn lansio'r sianel ym mhabell S4C ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ddydd Sul Awst 6ed am 14.00, gan ganu yn y bŵth carioci a pherfformio set acwstig.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd croeso i bawb ymweld â phabell S4C i ganu rhai o'u hoff ganeuon yn y bŵth.

Daw'r datblygiad newydd yma gan Cwmni Da, sy'n cynhyrchu Noson Lawen wedi i'r gyfres ddathlu ei phen-blwydd yn 40 y llynedd.

Noson Lawen yw'r rhaglen adloniant ysgafn sydd wedi rhedeg hiraf ar deledu yn Ewrop, ac mae hi wedi cyrraedd carreg filltir arall eleni wrth ddathlu'r ffaith bod fideos ar ei sianel YouTube wedi'u gwylio 10 miliwn o weithiau.

Yn ôl Olwen Meredydd, Cynhyrchydd Noson Lawen: "Noson Lawen yw un o'r sianeli YouTube Cymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd ac roedden ni'n cael ceisiadau o hyd am eiriau i'r caneuon. Dyna oedd yr ysgogiad i greu'r sianel Carioci.

"'Da ni'n gobeithio y bydd yn adnodd i gantorion ifanc ddysgu caneuon ar gyfer cyngherddau, clyweliadau a chystadlaethau; cyfle i ddysgwyr Cymraeg ymarfer drwy gyfrwng cân a chyfle i bawb fwynhau canu carioci Cymraeg mewn partïon, priodasau, nosweithiau cymdeithasol, yn y dafarn neu hyd yn oed adre' o flaen y drych!

"Bydd dewis o ugain cân ar y cychwyn ond y gobaith yw ychwanegu mwy; byddwn felly'n annog pobl i gysylltu gydag awgrymiadau o ganeuon yr hoffen nhw glywed. Bydd blwch ceisiadau yn y bŵth carioci fydd yn stondin S4C yn yr Eisteddfod Genedlaethol, felly dewch â'ch awgrymiadau, ac i ganu yn y bŵth hefyd wrth gwrs!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?