S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddion Ni yn dechrau ar S4C gyda wyneb newydd yn cyflwyno

30 Awst 2023

Bydd rhaglen newydd i blant a phobl ifanc ar S4C ddydd Llun 4 Medi – Newyddion Ni.

Mae'r rhaglen yn cymryd lle Ffeil ac yn cynnig straeon newyddion a chwaraeon i'r gwylwyr mewn ffordd fwy hygyrch i bawb.

Bydd yn darlledu ar ddydd Llun, Mercher a Gwener yn ystod y tymor ysgol.

Ymysg y pynciau bydd yn cael eu trafod mae newid hinsawdd, hawliau dynol, chwaraeon, selebs, yn ogystal ag eitemau hirach fydd yn rhoi esboniad o straeon anodd.

Bydd rhai straeon yn cael eu hadrodd drwy lygaid plant yn ogystal – Fy Stori i. Elfen arall o'r rhaglenni ar ddyddiau Llun fydd slot Newyddion App-us, lle bydd cyfle i glywed am newyddion ysgafnach.

Wyneb newydd sbon i S4C fydd yn cyflwyno'r rhaglen - Siôn Tomos Williams o Glais, Abertawe. Mae Siôn yn 18 oed a newydd orffen ei gyfnod yn astudio Lefel A yn yr ysgol. Tra'r oedd yn yr ysgol, roedd ganddo swydd rhan amser fel coediwr (tree surgeon), ond roedd ei fryd ar fod yn gyflwynydd ers blynyddoedd:

"Dwi wastad wedi gwybod 'mod i eisiau cyflwyno – ro'n i'n mwynhau perfformio a chystadlu mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus ac ati yn yr ysgol, ond do'n i ddim yn siŵr iawn sut i dorri fewn i'r maes" meddai Siôn.

"Ro'n i hefyd yn gwybod nad o'n i eisiau mynd i'r Brifysgol ar ôl gorffen ysgol, yn bennaf oherwydd ei fod mor gostus."

"Anfonodd Mam yr hysbyseb am y swydd yma ata i; nes i feddwl pam lai - a mynd amdani! Ar ôl creu fideo bach yn esbonio pwy oeddwn i, cyfweliad a phrawf sgrin, ro'n i mor gyffrous i gael y cyfle arbennig yma i fod ar raglen sy'n cael ei lansio o'r newydd. Dwi wedi cael lot o hyfforddiant, gan fod lot o agweddau newydd i'r swydd - fel golygu a ffilmio.

"Plant a phobl ifanc yw'r dyfodol, ac mae rhaglen newyddion sy'n darparu newyddion dibynadwy a chywir mewn ffordd syml ond difyr yn hollbwysig – yn enwedig gan fod cymaint o newyddion ffug i'w gael ar gyfryngau cymdeithasol. Dwi methu aros i ddechrau arni."

Meddai Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:

"Mae plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i'r sianel, ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn newyddion. Mae'n bwysig felly ein bod ni'n trafod y straeon newyddion mawr ac yn cynnig rhaglen sy'n cyflwyno'r newyddion mewn ffordd ddifyr sy'n rhoi esboniad y tu ôl i rai o'r straeon yna. Ac mae cynnwys y plant a'r bobol ifanc a'u straeon nhw'n hynod bwysig hefyd, a'n bwriad gyda'r eitem Fy Stori i yw rhoi llais iddyn nhw."

Fe fydd y rhaglen 8 munud yn cael ei dangos ar S4C Clic ar ôl 11:00 (ac ar gael ar S4C Clic am gyfnod o 48 awr), yna'n rhan o slot Stwnsh am 17:50 (ac ar gael ar BBC iPlayer wedi hyn).

Newyddion Ni

4 Medi, ar ôl 11.00 ar S4C Clic, ac am 17.50 ar S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a platfformau eraill

Cynhyrchaid BBC Cymru i S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?