S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pencampwr Cwis Bob Dydd S4C yn ennill car am flwyddyn

20 Tachwedd 2023

Mae Michaela Carrington, o Grughywel, Powys, wedi ennill prif wobr Cwis Bob Dydd, sef y defnydd o gar am flwyddyn.

Cwis Bob Dydd yw cwis dyddiol S4C ac fe gyhoeddwyd yr enillydd yn fyw ar raglen Heno nos Wener (17 Tach), gyda'r wobr yn cael ei noddi gan gwmni Gravells.

Mae'r app poblogaidd wedi cael ail dymor llwyddiannus iawn ers dychwelyd ym mis Mehefin, gan gyrraedd dros 18,000 o chwaraewyr. Mae hyn yn cynnwys dros 2,000 o gynghreiriau lle mae ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr yn herio'i gilydd ar draws y wlad.

Nod y cwis yw ateb 10 cwestiwn y dydd, i gyd yn gywir ac mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd. Mae'r sgôr yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuwr wedi eu hateb.

Mae'r cwestiynau i gyd yn rai aml-ddewis. Mae'n nhw'n wahanol i bawb, ac yn cynnwys daearyddiaeth Cymru, dyfyniadau barddonol, anagramau, posau mathemategol, chwaraeon, hanes a phynciau di-ri eraill.

Yn ogystal â'r brif wobr, roedd dros 20 o noddwyr wedi cyfrannu i'r gwobrau wythnosol y tymor yma, yn cynnwys tocynnau rygbi rhyngwladol, cynnyrch Cymreig a theclynnau fel tabledi, teledu neu airpods.

Dywedodd Michaela, sydd wedi rhoi genedigaeth i'w mab Idris yn ddiweddar:

"Mae'n anghredadwy, dwi methu credu fe! Dwi methu credu fod hyn wedi digwydd i ni.

"Dwi wedi chwarae bron bob dydd ers i fi gael fy sgan 20 wythnos. Nes i ffindio mas amdano fe yn y gwaith a fi wedi bod yn chwarae e bob dydd."

Meddai Iwan England, Pennaeth Di-Sgript S4C:

"Rydym ni'n falch iawn o lwyddiant Cwis Bob Dydd. Erbyn hyn, mae'n rhan o batrwm dyddiol miloedd o bobl ar draws Cymru. Er fod tymor dau yn dod i ben, does dim angen anobeithio – mi ddaw tymor neu dymhorau pellach o'r cwis yn fuan."

Mae Cwis Bob Dydd yn fformat gwreiddiol gan CodeSyntax, sydd wedi'u lleoli yng Ngwlad y Basg, ac wedi'i gynhyrchu yn y Gymraeg i S4C gan Tinint.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?