S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Channel 4, S4C a Little Wander yn cyhoeddi Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi newydd

4 Rhagfyr 2023

Mae cynllun datblygu artistiaid comedi newydd sbon yn cael ei lansio yng Nghymru mewn cydweithrediad rhwng Channel 4, S4C a Little Wander er mwyn chwilio am dalent newydd a'i ddatblygu. Mae'r tri sefydliad wedi gweithio mewn partneriaeth i greu cynllun newydd ar gyfertalentau comedi o Gymru (a'r rhai sydd wedi eu lleoli yng Nghymru), darparu cyfleoedd datblygugyrfa ac agor y drws i gomisiynau creadigol yn y dyfodol.

Bydd yr awduron a'r perfformwyr sydd wedi'u dewis yn cael eu paru â mentoriaid i weithio arddarnau comedi i'w harddangos i gomisiynwyr Channel 4 ac S4C yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth yn 2024.

Bydd y rhaglen yn rhoi amser datblygu â thâl i artistiaid, mentora proffesiynol, dosbarthiadau meistr yn y diwydiant a chyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth a'u profiad o'r diwydiant comedi.

Bydd yr artistiaid yn gallu datblygu unrhyw waith o fewn y genre comedi naratif, gan greu deunydd a chymeriadau newydd sy'n gallu bod yn sail ar gyfer datblygu syniadau cyfresi teledu naratif llawn gyda'r ddau ddarlledwr. Bydd S4C hefyd yn ystyried ceisiadau gan y rhai sy'n dymuno datblygu mathau eraill o berfformiadau comedi.

Bydd 6 o gyfranogwyr yn cael eu dewis ar gyfer y rhaglen, gydag o leiaf hanner ohonynt yngweithio yn Gymraeg. Rydym yn disgwyl i'r artistiaid sydd wedi'u dewis fod ar wahanol gamauyn eu gyrfaoedd ac rydym wedi ymrwymo i deilwra'r rhaglen i weddu eu hanghenion unigol.

Y Gymraeg

Bydd o leiaf hanner y cyfranogwyr yn gweithio'n bennaf yn Gymraeg. Gall gyfranogwyr baratoi deunydd yn y ddwy iaith i'w gyflwyno i'r darlledwyr gwahanol, ond rhaid iddynt ddewis iaith gynradd a darlledwr wrth wneud eu cais. Mae cymorth ar gael i siaradwyrCymraeg newydd, dysgwyr, a'r rhai sydd heb lawer o brofiad blaenorol o berfformio yn y Gymraeg.

Charlie Perkins, Pennaeth Comedi Channel 4:

"Mae Channel 4 Comedy yn adlewyrchu'r DU yn ôl ar ei hun mewn ffordd gyfoes, felly mae cefnogi'r diwydiant comedi byw yn allweddol i lwyddiant hynny. Ar ôl bod yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth dros y 12 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld talentau comedi anhygoel o Gymru yn cael eu meithrin, eu cefnogi ac yn ffynnu - nawr yn fwy nag erioed. Rydym yn ddiolchgar i S4C am eu partneriaeth greadigol a gallwn ni ddim aros i weld beth fydd Little Wander yn ei ddatblygu."

Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C:

"Mae S4C yn falch o gefnogi'r cyfle hwn i ddatblygu talentau comedi yma yng Nghymru. Bydd yn sicrhau y gallwn ni gefnogi talentau newydd, meithrin eu syniadau a rhoi cyfle iddyn nhw ddisgleirio ar lwyfan amlwg o fewn y diwydiant. Mae comedi Cymraeg wedi dod yn bell iawn dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhaglen ar-lein gyntaf S4C, Hansh, ar y blaen o ran darparu cyfleoedd i dalentau newydd."

Henry Widdicombe, Cyfarwyddwr Cwmni Little Wander:

"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni'n gweithio gyda dau ddarlledwr mawr i roi sylw i'r talentau comedi newydd sy'n dod o Gymru ar hyn o bryd. Mae hwn yn gyfle mor wych i dalentau o Gymru a rhai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus."

Y Broses Ymgeisio:

Gall ceisiadau fod gan unigolion, deuawdau neu grwpiau (ni fydd ceisiadau gan gwmnïau yn cael eu hystyried). Mae'n rhaid i bob ymgeisydd fod yn Gymro/Cymraes neu wedi'u lleoli yng Nghymru. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed neu'n hŷn. Ar gyfer artistiaid sy'n gweithio yn Saesneg yn bennaf (Channel 4) – byddwn ond yn derbyn ceisiadau gan artistiaid nad oes ganddynt gomisiynau blaenorol gan ddarlledwr mawr. Ar gyfer artistiaid sy'n gweithio'n bennaf yn Gymraeg (S4C) - byddwn yn derbyn ceisiadau gan artistiaid newydd yn ogystal â'r rhai sydd wedi cael comisiwn blaenorol gydag S4C.

I ymgeisio, dilynwch y linc yma: littlewander.co.uk/about-little-wander/artist-development-programme/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?