S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

3 Ionawr 2024

Drama gignoeth newydd wedi'i lleoli mewn carchar dynion ydy'r cynhyrchiad mawr cyntaf i gael ei ffilmio yn Stiwdio Ffilm Aria gwerth £1.6m yn Llangefni.

Mae'r gyfres chwe phennod Bariau wedi eu seilio ar dystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn, ac yn archwilio perthynas pedwar prif gymeriad ar ddwy ochr o'r gyfraith, â'i gilydd. Mae'r ddrama hefyd yn tynnu sylw at yr effaith wna eu penderfyniadau arnynt eu hunain a'r bobl o'u hamgylch.

Mae'r ddrama ddwyieithog Cymraeg-Saesneg yn serennu Annes Elwy (Gwledd ac Y Golau) a Gwion Tegid (Rownd a Rownd ac Yr Amgueddfa) fel Barry, ynghyd ag Adam Woodward (Hollyoaks ac Emmerdale) fel Kit a Bill Skinner (Ted Lasso) fel George – y ddau yn ymddangos am y tro cyntaf mewn drama S4C. Mae'r gyfres wedi'i hysgrifennu gan Ciron Gruffydd (Limbo) a chyfarwyddo gan Griff Rowland (Y Gwyll, Wizards vs Aliens BBC).

Gwion Tegid yw Barry Hardy yn Bariau

Mae Bariau yn gynhyrchiad Rondo Media ac wedi cyfrannu cannoedd ar filoedd o bunnoedd i mewn i'r economi leol. Mae'r set dwy lawr sy'n cynnwys 24 cell ar draws bron i 2,500m² wedi ei adeiladu gan fasnachwyr lleol ar Lwyfan 1 Stiwdio Aria. Roedd y cynhyrchiad yn cyflogi tua 80 o bobl, gan gynnwys 18 o gyn weithwyr ffatri ieir 2 Sisters – ffatri fawr yn Llangefni a gaeodd ei drysau yn gynharach eleni.

Mae James Mellor sydd yn drydydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar y ddrama, yn un o gyn weithwyr 2 Sisters fu'n gweithio ar Bariau. Meddai:

"Mae Bariau wedi digwydd ar yr adeg perffaith i Langefni. Ar ôl colli un o'r cyflogwyr mwyaf ar Ynys Môn, mae Rondo Media ac Aria Studios wedi rhoi hwb mawr oedd ei angen i'r ardal. Dioddefodd llawer o bobl yn ariannol ac yn feddyliol oherwydd cau 2 Sisters ond, yn fy rôl ar y cynhyrchiad, roeddwn yn gallu helpu i ysgafnhau'r baich hwnnw, trwy gynnig gwaith ar sgrin ac oddi ar y sgrin i gyn-weithwyr ffatri.

"Pan gaeodd 2 Sisters, dyma oedd prif bwnc sgwrsio am fisoedd. Nawr fedra i ddim cerdded i mewn i siop heb bod rhywun yn holi am y ddrama, ei dyddiad rhyddhau, a beth sy'n dod nesaf i Aria Studios."

Annes Elwy yw Elin yn Bariau

Sefydlwyd Aria Studios, a agorodd ym mis Hydref 2022, gan Rondo Media a changen fasnachol S4C, S4C Digital Media Limited er mwyn manteisio ar y nifer cynyddol o gynyrchiadau sy'n cael eu denu i'r lleoliadau ysblennydd ledled gogledd Cymru.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, mae gan y stiwdios ddau lwyfan cwbl wrthsain sy'n darparu 20,000 troedfedd sgwâr o ofod ffilmio fel gall cwmnïau cynhyrchu o Gymru ei ddefnyddio, ac i ddenu cynhyrchwyr ffilm a theledu y tu allan i Gymru i ffilmio yn yr ardal.

Y gobaith yw y bydd Aria yn dod yn ganolbwynt ar gyfer datblygu talent a sgiliau gyda chynlluniau i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer gyrfaoedd yn y sector ffilm a theledu. Rhoddwyd cyfleoedd i bobl gael hyfforddiant y cyfryngau o Sgil Cymru ac MSbarc i weithio fel rhan o'r criw cynhyrchu ar Bariau.

Dywedodd Gerwyn Evans, is-Gyfarwyddwr Cymru Greadigol:

"Mae'n wych gweld y cyfleusterau yn Aria Studios yn cael eu defnyddio gan gwmnïau cynhyrchu i greu cynnwys newydd, gwreiddiol Cymraeg. Mae lansiad Aria wedi bod yn hwb enfawr i ranbarth Gogledd Cymru, drwy ddod yn gartref newydd i Rondo Media, creu cyfleoedd i'r gweithlu lleol a chynnig cyfle i bobl lleol ar hyfforddiant ennill profiad o weithio ar set mewn amgylchedd byw.

"Mae ARIA hefyd yn rhan o fenter sgiliau Cymru gyfan, Academi Sgrin Cymru, a lansiwyd yn ddiweddar. Dan arweiniad Prifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Screen Alliance Wales, bydd y prosiect yn creu tair Academi Sgrin newydd y tu mewn i Stiwdios Greatpoint, Dragon Studios ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Stiwdios Aria ar Ynys Môn, i gyflwyno'r sgiliau, yr addysg a'r hyfforddiant i bobl ddilyn gyrfa mewn ffilm a theledu.

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn anfon neges gadarnhaol iawn i'r diwydiant - mae Aria ar agor i fusnes, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at fwy o gwmnïau cynhyrchu yn dewis gogledd Cymru fel eu lleoliad nesaf."

Bill Skinner yw George yn Bariau

Mae Bariau yn dilyn llwyddiant drama drosedd ddwyieithog fawr gyntaf S4C Bang, oedd wedi'i lleoli ym Mhort Talbot. Cafodd y ddrama ei chreu a'i hysgrifennu gan Roger Williams, a cyrhaeddodd y gyfres gyntaf ddarlledwyd yn 2017 restr fer Gwobr Urdd yr Awduron. Enillodd Bang gafodd ei chynhyrchu gan Joio, wobr y ddrama orau yng ngwobrau BAFTA Cymru ac yng Ngŵyl y Cyfryngau Celtaidd. Hon oedd y ddrama S4C gyntaf i gael ei phrynu gan y BBC yn ei ffurf wreiddiol a'i gwerthu i diriogaethau ledled y byd gan gynnwys Gogledd America, Canada a Sweden.

Meddai Comisiynydd drama S4C, Gwenllian Gravelle:

"Mae Bariau yn adlewyrchu realiti llym bywyd y tu mewn i garchar modern yng Nghymru – gyda chymeriadau Cymraeg eu hiaith a Saesneg eu hiaith – fel y byddech yn disgwyl eu gweld yno, yn cael eu portreadu gan dalent eithriadol.

"Rydym wrth ein bodd bod dramâu diweddar fel Dal y Mellt ac Y Golau wedi derbyn llwyddiant byd-eang, a gobeithiwn y bydd cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt, yn cysylltu â'r stori afaelgar hon."

Noddir arlwy Nadolig S4C gan Cig Eidion Cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?