S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

8 Ionawr 2024

Mewn cyfweliad ar gyfer cyfres newydd S4C Taith Bywyd, mae'n dweud ei fod yn anodd meddwl yn ôl am y cyfnod yna, a'i fod wedi ceisio delio â'r profiad "o fewn ei hun".

Cafodd corff Gary Speed, cyn-gapten Cymru a yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol ar y pryd, ei ddarganfod yn ei gartref ar y 27ain o Dachwedd 2011. Roedd wedi marw drwy hunan-laddiad.

Ym mhennod gyntaf y gyfres ar S4C am 21:00 nos Sul 7 Ionawr, bydd Osian Roberts yn mynd ar daith i gwrdd â'r bobl wnaeth newid ei fywyd a dylanwadu ar ei yrfa.

Mae Osian yn sgwrsio'n agored gyda chyflwynydd y rhaglen Owain Williams am golli un o'i ffrindiau, a rhywun wnaeth drawsnewid ei fywyd, Gary Speed:

"Pan ddoth o'n Reolwr y tîm cyntaf, doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fo godi'r ffôn a gofyn i mi ddod i helpu fo – oedd o'n dipyn o sypreis – a'r unig beth oedd yn fy meddwl i oedd 'sut ydw i'n gallu helpu Gary i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol'."

"Roedd hi'n golled anferthol oherwydd roeddwn i'n colli ffrind, colli rhywun oedd yn agos iawn. Pan mae hynny'n digwydd, mae'n anferth o sioc ac mae'n debyg 'mod i wedi brwydro efo'r teimladau yna ers hynny. Dwi'n ddyn sy'n licio darparu ar gyfer pethau ac oedd hwn yn gyfnod lle oeddwn i ddim wedi gallu...Mae o wedi digwydd cyn i chdi wybod. Ers hynny, dwi jyst wedi trio delio efo fo o fewn fy hun – dwi ddim yn siŵr os ydi o'r ffordd cywir ond dyna'r ffordd dwi wedi trio. Ac ar adegau, mae'n anodd meddwl am y cyfnod oherwydd wnaethom ni golli dyn sbesial iawn."

"Y gêm anoddaf i fi erioed oedd y gêm gofeb i Gary Speed. A fi oedd rheolwr y tîm. Y canlyniad a'r gêm – dwi'n cofio dim. Roedd y pêl-droed yn eilradd y noson yna. Ashley Williams yn dweud wrtha i hanner amser 'Osh, I can't run. I can't feel my legs.' Oedd y bechgyn, yn seicolegol, wedi mynd. Dwi'n cofio tad Gary yn dod ata i cyn y gêm a gofyn 'Osh, can Ed and Tommy come in and speak to the players before the game?' Ac Ed wedyn yn siarad efo'r chwaraewyr yn yr ystafell newid yn deud 'this is what my Dad wanted, he's so proud of you.' Roedd y chwaraewyr mewn dagrau yn yr ystafell newid. Roedd hi'n noson mor emosiynol a'r unig nod oedd gen i oedd sicrhau o leiaf bod y teulu yn teimlo y bysa honno'n noson y bysa Gary wedi licio."

Osian Roberts, Joe Ledley ac Owain Williams

Yn y rhaglen fe fydd Osian Roberts yn cwrdd â cyn-chwaraewr Cymru Joe Ledley ac yn derbyn neges fideo gan gyn-ymosodwr Frainc ac Arsenal Thierry Henry, sydd wedi dod yn ffrind i Osian ar ôl mynychu ei gyrsiau sy'n hyfforddi hyfforddwyr pêl-droed.

Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae'r actores Sian Reese-Williams, y darlledwr Jason Mohammad, y dylanwadwr a'r cyflwynydd Jess Davies, y cerddor, gitarydd a pundit seiclo S4C Peredur ap Gwynedd, a'r cyn-Aelod Seneddol a'r ymgyrchydd Sian James.

Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw trwy'r dyddiau da a'r amseroedd anodd. Ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd, nag i le maen nhw'n mynd nesaf.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?