S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Cymro sydd a'i fryd ar yr NFL

6 Chwefror 2024

Mae Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n un o dalentau disglair American College Football, eisiau gwireddu ei freuddwyd o chwarae yn yr NFL.

Mae camerâu S4C wedi bod yn dilyn Evan Williams sy'n 23 oed wrth iddo chwarae ei dymor olaf o bêl-droed Americanaidd i dim Prifysgol Missouri Western State.

Bwriad Evan wedyn yw mynd ymlaen i wneud cais am le yng nghyngrair yr NFL - pinacl pêl-droed Americanaidd.

Bydd cyfres Y Gic Fawr i'w gweld ar holl blatfformau digidol S4C gan gynnwys S4C Clic a BBC iPlayer ar 6 Chwefror a bydd modd gweld y rhaglen ar S4C am 22.00 ar 8 Chwefror.

Yn ddiweddar cyhoeddodd seren Cymru Louis Rees-Zammit ei fod am droi ei gefn ar rygbi er mwyn dilyn ei freuddwyd o chwarae yn yr NFL.

Bob blwyddyn, mae dros filiwn o bobl ifanc yn yr UDA yn cystadlu ym mhêl-droed Americanaidd Ysgolion Uwchradd.

Dim ond 6% sy'n llwyddo i gyrraedd lefel colegol, a llai na 1% o'r rheiny sy'n cyrraedd yr NFL.

Bydd y rhaglen yn dangos brwydr ac aberth bersonol Evan wrth iddo geisio llwyddo yn un o gampau mwyaf cystadleuol a phoblogaidd y byd.

Yn ei arddegau, roedd Evan chwarae gyda Gleision Caerdydd:

"Pryd o'n i'n 16, wnaeth y Gleision dropio fi o'r garafan development achos o'n i'n 'rhy fach'," meddai. "Felly roedd rhaid i fi edrych am gyfleoedd newydd."

Symudodd i'r Unol Daleithiau i ddilyn ysgoloriaeth rygbi, ond cyn hir gwahoddwyd i gymryd rhan mewn treialon pêl-droed Americanaidd i Missouri Western State, gyn-gartref rhai o sêr mwyaf yr NFL.

Yn wahanol i chwaraeon colegol yn y Deyrnas Unedig, mae College Football yr UDA yn anferth, gyda 40,000 ar gyfartaledd yn mynychu'r gemau, a'r chwaraewyr yn adnabyddus dros y wlad. Felly roedd hon yn gynnig na allai Evan ei wrthod.

"Mae American College Football yn cynnig llawer mwy na rygbi proffesiynol adref yn fy mhrofiad i" meddai Evan.

"Er enghraifft, mae'n gwneud i ystafelloedd newid Undeb Rygbi Cymru i edrych yn fach. Mae'r campfeydd yn enfawr ac yn cynnwys yr holl dechnoleg ddiweddaraf - mae iPads ar bob rac, llawer o hyfforddwyr gwahanol, a chyfleuster dan do i ni fedru hyfforddi pryd bynnag sydd efo to digon uchel i ymarfer cicio. Mae'r holl gyfleusterau drud 'ma'n cael eu cyfiawnhau gyda pa mor fawr yw'r gamp allan yma. Dwi wedi elwa o'r holl brofiadau yma drwy gicio mewn gwirionedd!

"Baswn i'n dweud celwydd petawn i'n dweud mod wrth ddim yn drist mod i heb ei gwneud hi ym myd rygbi, achos fy mreuddwyd oedd chwarae dros Gymru. Tra'r o'n i'n rhan o gynllun llwybr datblygu Gleision Caerdydd wnaethon nhw ddweud pan o'n i'n 16 'mod i'n rhy fach i chwarae, ac mae'n debyg mai dyna'r profiad mwyaf torcalonnus a gefais yn fy siwrnai chwaraeon. Dyna pryd roedd yn rhaid i mi ystyried llwybr newydd, a dyna pryd ddaeth America i'r darlun.

"Ro'n i'n benderfynol o wella fy sgiliau. Doeddwn i ddim yn hoffi clywed mod i'n rhy fach neu ddim am fedru bod yn llwyddiannus yn y gamp, felly nes i roi fy meddwl ar fod fy ngorau posib yn y gamp.

"Mi fydda i wastad yn angerddol dros rygbi Cymru – mae wedi gwneud cymaint i mi; mae fy ngwreiddiau rygbi Cymreig yn gryf iawn.

"Dwi'n gobeithio gall fy stori ysbrydoli athletwyr ifanc i ddal ati, hyd yn oed os yw'r byd o'u cwmpas yn dweud na allech wneud rhywbeth, achos dyna yw fy stori mewn gwirionedd. Os byddai'r Evan ifanc yn medru 'ngweld i rŵan, byddai o'n teimlo'n falch iawn. Faswn i'n hoffi i'r neges mae'r rhaglen yma'n ei chyfleu annog plant ifanc i ddilyn eu breuddwydion – i anelu am y top. Dyna yw'r prif beth."

Y Gic Fawr

Ar holl blatfformau digidol S4C: Dydd Mawrth 6 Chwefror

Ar S4C: Nos Iau, 8 Chwefror 22.00Yna ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraillCynhyrchiad Boom Social (Boom Cymru TV Ltd.) ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?