S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

13 Ionawr 2023

Mae cyn-actor Emmerdale, Sian Reese-Williams, yn dweud iddi gael amser caled yn ei chyfnod ar y gyfres oherwydd yr holl sylw roedd hi'n ei gael gan y cyhoedd.

Mewn cyfweliad ar gyfer cyfres newydd S4C, Taith Bywyd, mae Sian yn dweud bod gwylwyr yn gwneud sylwadau personol pan roedden nhw yn ei gweld hi, a bod hyn wedi effeithio ei hyder.

Bydd y rhaglen i'w gweld ar S4C am 21:00 nos Sul 14 Ionawr pan fydd Sian Reese-Williams yn mynd ar daith i gwrdd â'r bobl wnaeth newid ei bywyd a dylanwadu ar ei gyrfa.

Ymunodd Sian â chast Emmerdale yn 2008 gan chwarae'r cymeriad Gennie Walker am dros 700 o benodau.

Yn 2012 gwyliodd 8.8 miliwn o bobl Sian yn actio mewn pennod o'r gyfres sebon ar ITV oedd yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Er fod Sian yn dweud fod ei chyfnod ar Emmerdale yn un 'arbennig', a'i bod wedi cael amser gwych yno, roedd delio gyda'r sylw yn anodd.

Dywedodd Sian:

"Nes i ffeindio hwnna yn eithaf anodd, roedd e'n stuggle i fi. Pan wyt ti mewn opera sebon, mae ryw fath o ownership, achos mae pobl yn gweld ti pob nos.

"Ti yn eu hystafell fyw nhw pob nos, ac mae pobl yn anghofio bod ti'n berson weithiau, ac mae'r pethau mae pobl yn teimlo maen nhw'n gallu gweud wrtha ti bach yn rhy bersonol...Ac mae lot o bobl ddim yn neis iawn, ddim yn garedig, ac mae hwnna yn gallu bod yn tricky."

"Roedd y pethau roedd pobl yn dweud amdani fel 'unlucky in love', 'ugly duckling'...Pan wyt ti'n clywed hwnna pob dydd am bum mlynedd, i fi, gath hwnna effaith ar hyder fi am sbel a gymerodd e eitha' lot o amser i dynnu'n hunain mas o hwnna. A dal nawr, weithiau mae'r llais negyddol yn pen fi, fi'n gwbod bod e'n dod o'r cyfnod yna."

Ar y rhaglen bydd Sian yn cwrdd ag un o sêr mwyaf Emmerdale ar y pryd, Sammy Winward, oedd yn actio'r rhan Katie Sugden am 14 mlynedd a ddaeth yn ffrind agos i Sian.

Yn 2018, cafodd Sian ei chastio fel y brif ran yn y ddrama Craith gan wneud tair cyfres lwyddiannus i S4C a fersiwn Saesneg o'r enw Hidden i'r BBC. Cafodd y gyfres hefyd ei darlledu ar draws y byd.

Hefyd yn rhan o'r daith, bydd sgwrs gyda'i chwaer, Heledd. Cafodd Sian ei magu mewn teulu hapus, gyda'i chwaer, ei brawd Llyr a'u rhieni Gill a Jeff.

Darganfuwyd bod gan Llyr diwmor ar yr ymennydd yn 2005 a bu farw yn 2019. Mae cofio amdano yn holl bwysig i'r teulu.

Dywedodd Sian:

"Roedd bach o ofn arna i bo fi'n mynd i ffeindio fe'n rili anodd i gofio fe mewn unrhyw ffordd arall na beth o'dd e yn y diwedd, achos yn y diwedd, doedd e ddim yn neis. Ond daeth e nol yn rili glou i fi yr atgofion ohono fe yn ifancach ac yn iach."

"Ni'n siarad amdano fe drwy'r amser...Mae rhywbeth yn atgoffa fi o Llyr bron pob diwrnod."

"Mae e'n anodd i neud ond lot o'r amser, a fi ddim yn dda iawn efo hyn, ond mae e yn rhywun sy'n dangos fel mae byw trwy rhywbeth caled – mae'n rhaid i ti gadw i fynd. Ac mae e wedi dysgu hwnna i ni gyd."

Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae'r darlledwr Jason Mohammad, y dylanwadwr a'r cyflwynydd Jess Davies, y cerddor, gitarydd a pundit seiclo S4C Peredur ap Gwynedd, a'r cyn-Aelod Seneddol a'r ymgyrchydd Sian James. Ac mae pennod gyntaf y gyfres gyda Osian Roberts ar gael ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw trwy'r dyddiau da a'r amseroedd anodd. Ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd, nag i le maen nhw'n mynd nesaf.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?