S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

9 Ionawr 2024

Mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn troi at ddylanwadwyr bywyd i gael cyngor ar ffitrwydd, rhywbeth all fod yn beryglus heb oruchwyliaeth meddygol yn ôl y cyflwynydd Jess Davies sydd wedi bod yn ymchwilio i'r pwnc ar gyfer cyfres newydd i S4C.

Bydd Jess yn cyflwyno cyfres o raglenni materion cyfoes gan ddechrau gyda rhaglen yn edrych ar 'fitfluencers' sydd yn rhoi cyngor ar ddiet ac ymarfer corff ar Instagram, YouTube a TikTok.

Bydd Jess Davies: Dylanwad Drwg? i'w gweld ar S4C nos Fawrth, Ionawr 9fed am 21:00, gyda Jess yn holi os ydy fitfluencers yn dda neu'n ddrwg i'n hiechyd?

"Does dim angen unrhyw gymwysterau arnoch i rannu cyngor ar y we" esbonia Jess "Mae nifer fawr o bobl ifanc yn cael cyngor am ddiet a ffitrwydd gan ddylanwadwyr yn hytrach na'u meddyg teulu. Gall hyn fod yn beryglus."

Mae gwaith ymchwil diweddar gan asiantaeth sy'n arbenigo mewn strategaeth brand wedi adrodd bod mwy na chwe miliwn o bobl yn y Deyrnas Gyfunol yn troi at genhedlaeth newydd o ddylanwad-wŷr ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, i gael help gyda chyflyrau cronig neu wybodaeth gofal iechyd fwy cyffredinol.

Jess Davies gyda Bobbie o Landrillo yn Rhos wnaeth ddilyn diet llym i fod yn body builder

Yn y gyntaf o dair rhaglen, mae Jess yn cwrdd â dylanwad-wraig o Califfornia, Courtney Luna, sydd â mwy na 100,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif TikTok.

Mae Courtney yn blogio am ei diet Carnivore - diet o gig.

Medd Courtney:

"Rydw i wedi bod ar y diet hwn ers 16 mis. Wnaeth fy meddyg ddim ei argymell i mi ... Does dim byd sydd gan blanhigion na allwn ei gael o gig sydd ei angen arnom.

"Mae nifer o'm dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol wedi tyfu yn aruthrol. Dwi jyst yn trio helpu pobl. Does gen i ddim cymwysterau ond mae hynny'n beth arall sy'n gwneud i fi chwerthin achos dydy Doctoriaid ddim yn gwybod llawer am faeth..."

Yn ystod y gyfres bydd Jess yn edrych y tu ôl i'r penawdau ar dri phwnc, yn cael cyngor gan bobl proffesiynol ac yn siarad â phobl ifanc.

Yn yr ail rhaglen mae Jess yn gofyn a yw protestwyr bellach yn cael eu hystyried fel troseddwyr, wrth iddi ymuno â phrotest Just Stop Oil yn Llundain.

Yn y drydedd rhaglen mae Jess yn edrych i mewn i aflonyddu rhywiol gan holi pam fod merched yn dal i orfod brwydro am eu hawl i deimlo'n saff, ac yn rhannu o'i phrofiadau ei hun â'r gwylwyr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?