S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ad-daliad am gost pleidleisio i Cân i Gymru 2024

Rydym yn deall bod nifer o wylwyr wedi cael trafferthion wrth geisio bwrw pleidlais yn ystod Cân i Gymru 2024 ac mae'n ddrwg iawn gennym am hynny.

Er i'r system gael ei phrofi'n llwyddiannus o flaen llaw roedd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y noson.

Mae manylion isod am drefniadau i ad-dalu'r gost i unrhyw un wnaeth fwy nag un galwad ffôn i bleidleisio, am nad oedd neges yn cadarnhau bod y bleidlais gyntaf wedi ei chyfrif.

Bydd modd hawlio ad-daliad am bob galwad yn dilyn y neges gyntaf (gallwn gadarnhau y byddai honno wedi ei chyfrif fel pleidlais).

Mae'r canlyniadau wedi cael eu gwirio ac yn ddilys.

Mae gwybodaeth isod am y camau sydd angen eu dilyn.

  • Sut i hawlio ad-daliad

    Cân i Gymru 2024

    Llenwch y ffurflen gan nodi:

    • Enw y person sy'n gwneud y cais a nodi cyfeiriad e-bost
    • Yr enw a chyfeiriad sydd ar y bill ffôn
    • Rhif y ffôn perthnasol
    • Ai o ffôn symudol neu linell ffôn gyffredin y gwnaed yr alwad?
    • Pa gwmni sy'n cyflenwi'r gwasanaeth ffôn
    • Cost yr ad-daliad
    • Uwch lwytho/llun o'r bil ffôn
    • Manylion banc

  • Ffurflen Ad-daliad

    Ffurflen Ad-daliad

    Cân i Gymru 2024

Os ydych chi angen unrhyw gymorth i lenwi'r ffurflen cysylltwch â Gwifren ar 0370 600 4141 neu cig2024@s4c.cymru

Fe wnawn bob ymdrech i brosesu pob cais dilys cyn gynted â phosib ac o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais.

Telerau ac Amodau - Proses Ad-dalu

Hysbysiad Preifatrwydd - Ad-daliad Costau Pleidleisio

Diolch i chi am eich hamynedd ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyd-weithrediad.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?