S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwis Bob Dydd yn denu 10,000 o ddefnyddwyr

17 Awst 2023

Mae ap Cwis Bob Dydd wedi cyrraedd 10,000 o ddefnyddwyr ers iddo ddychwelyd yn ôl ym mis Mehefin eleni.

Y nod yw ateb deg cwestiwn y dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.

Mae'r sgôr yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuwr wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.

Mae'r cwis yn rhedeg am gyfanswm o ugain wythnos, yn dilyn rhediad cyntaf fis Hydref y llynedd.

Pob tro bydd rhywun yn cystadlu ar y cwis byddan nhw'n derbyn tocyn am gyfle i ennill prif wobr y tymor, sef defnydd o gar am flwyddyn.

Yn ogystal â'r prif wobr, mae gwobrau wythnosol hefyd sy'n amrywio o docynnau rygbi rhyngwladol, cynnyrch Cymreig a theclynnau fel tabledi, teledu neu airpods. Ac mi fydd un o'r 200 ar frig sgorfwrdd yr wythnos yn cael eu dewis ar hap i ennill pecyn Cwis Bob Dydd.

Meddai Megan Llŷn, un o wynebau'r cwis:

"Mae'n grêt gweld ap Cymraeg fel hyn yn llwyddo ac yn denu dros 10,000 o ddefnyddwyr.

"Mae yna fomentwm a chyffro o gwmpas Cwis Bob Dydd ar hyn o bryd, gyda gwobrau gwych i'w hennill a miloedd o bobl yn herio ei gilydd ym mhob cwr o Gymru mewn cynghreiriau gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr.

"A'r newyddion gorau yw fod dros hanner y tymor ar ôl!"

Gallwch ymuno ar ffôn Apple neu Android – y cyfan sydd angen gwneud yw lawrlwytho'r ap a chofrestru.

Mae'r cwis yn fformat gwreiddiol gan CodeSyntax, sydd wedi'u lleoli yng Ngwlad y Basg, ac wedi'i gynhyrchu yn y Gymraeg i S4C gan Tinint.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?