Croeso i S4C! Neu groeso'n ôl, os dych chi wedi bod bant am sbel.
Os dych chi'n cymryd eich camau cyntaf i ddysgu Cymraeg, eisiau gwella eich sgiliau yn yr iaith, neu'n chwilfrydig, 'dyn ni wrth ein boddau eich bod chi wedi ymuno â ni ar yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.
Ar y wefan hon mae'r holl wybodaeth dych chi angen i deimlo'n gartrefol gyda S4C.
Os bydd unrhyw beth arall fasai'n ddefnyddiol i chi, rhowch wybod!
Mae'n synnu llawer o bobl sy'n cymryd eu camau cyntaf yn y Gymraeg bod 'na diwylliant Cymraeg gwahanol a bywiog, sydd efallai yn hollol newydd i chi. 'Dyn ni'n gobeithio bod S4C yn gallu bod yn ddrws i chi i mewn i'r byd hwn, a byddwn ni'n trio'n galed i'ch helpu pan fyddwch chi'n cychwyn ar eich taith.
Mae S4C yma i chi ar bob cam o'ch taith chi gyda'r Gymraeg, a bydd ein rhaglenni yn eich helpu chi i ddod i adnabod a mwynhau holl seiniau, acenion a thafodieithoedd ein hiaith brydferth. Os dych chi'n dod aton ni fel eich cam cyntaf, efallai byddwch chi eisiau ymweld â'n partneriaid bendigedig.
Mae cyrsiau ac adnoddau gyda nhw i'ch helpu chi i ddysgu, lle bynnag yn y byd dych chi.
Am gyrsiau ac adnoddau i helpu chi wrth ddysgu, ewch i wefan Dysgu Cymraeg.
Gall SaySomethinginWelsh helpu chi wrth ddysgu Cymraeg, ewch draw i weld beth sydd ar gael.